OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1464 (Cy. 158)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Merthyr Tydfil College Limited (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi Merthyr Tydfil College Limited, coleg sy’n cael ei redeg gan gwmni cofrestredig cyfyngedig drwy warant, at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mae dynodi Merthyr Tydfil College Limited yn golygu bod y sefydliad i gael ei drin fel sefydliad o fewn y sector addysg bellach at ddibenion y Deddfau Addysg (o fewn yr ystyr a roddir gan adrannau 91(1) ac 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac adran 578 o Ddeddf Addysg 1996).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1464 (Cy. 158)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Merthyr Tydfil College Limited (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2015
Gwnaed 1 Gorffenaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Gorffenaf 2015
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Merthyr Tydfil College Limited (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2015 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
Dynodi
2. Mae Merthyr Tydfil College Limited (a gorfforwyd ar 13 Awst 2008 fel cwmni cyfyngedig drwy warant ac a gofrestrwyd gyda’r rhif cwmni 06671721), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2)(d) o adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.
Julie James
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, un o Weinidogion Cymru
([1]) 1992 p. 13. Diwygiwyd adran 28 gan Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), ac adran 143 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 28 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.